Port eirin ysgaw a meddyliau hydref

Posted by on Sep 3, 2013 in News | 0 comments

Port eirin ysgaw a meddyliau hydref

Wel, mae’r haf wedi dod a mynd. Mae dal ychydig o gordial blodysgaw ar ôl sydd yn gallu f’atgoffa am yr haf gwych a fu ond Medi’r cyntaf yw’r diwrnod lle dyn ni’n ffarwelio â’r hâf ac yn croesawi’r hydref. Mae gan greadigaeth digon i’w gynnig i’r chwilotwr llygaid barcud.IMG_2164

 

Treuliais yr haf yn chwilota, pobi a gorffen y cwb ffowls heb anghofio pythefnos yng Ngroeg! Oeddwn i wrth fy modd gyda fy mara gwymon, gwnaed â gwymon o’r traeth yn Nhrefin. Dwi ‘di taro’r hoelen ar ei phen gyda choffi dant y llew (y gyfrinach yw rhostio darnau yr un maint neu byddwch yn llosgi peth tra bod darnau arall dal yn llipa) (mae’r ddau yna’n haeddu blogbost ei hun!) ond mae’r gwir gyffro yn dechrau nawr. Aeron yr hydref.

 

Mwyara yw’r chwilota mwyaf mentrus ma’ ran fwyaf ohonom ni’n neud. Dyma dair deddf mwyara:

  1. Fyddwch chi yn cael eich scrapo.
  2. Mae yna wastad mwyaren well jyst allan o’ch cyrraedd.
  3. Allwch chi fyth cael digon.IMG_2156

 

Achos dwi’n dwli ar fwyd am ddim fyddai allan yn mwyara mor aml â phosib. Dwi’n gwneud jam, crymbl, pastai a dwi wastad yn rhewi rhai ar gyfer nes mlaen yn y flwyddyn.  Mewn gwirionedd mae ‘na lawer mwy o aeron ar gael i’r chwilotwr craff. Dwi di gweld eirin duon, eirin gwyllt, eirin bach sur, afalau bach sur (oce, diw e ddim yn aeronen) ond os mae yna un fydden i’n argymell chi i drïo eirin ysgaw yw’r rheini. Maen nhw llawn fitamin C, mae yna gyflenwad digonol, maen nhw’n gwneud jam gwych a chordial ond y peth gorau oll ydy:

 

Port eirin ysgaw. O’r funud dwi’n pigo’r blodysgaw olaf yng nghanol Gorffennaf dwi’n disgwyl ‘mlaen i’r aeron. Yn llythrennol o’n i’n meddwl,dwi’n methu aros i’r aeron! Ar hyn o bryd dwi’n bragu gwin blodysgaw, gwin cyrens coch. Ma’ fodca blodysgaw gyda fi ond mmmm y port ’na.

 

Dyma’r rysáit. Diolch Megan am dy help!

 

4 peint eirin ysgaw (rhowch nhw mewn jwg mesur)

1.5 kg siwgr

125g rhesins

4.5 litr o ddŵr

 

Dewch a’r dŵr a’r eirin ysgaw i’r berw a mudferwch am 15 munud.

Hidlwch (trwy fwslin) a thaflwch y pwlp.

Ychwanegwch y siwgr a’r rhesins i’r hylif twym a gadewch iddo oeri. Epleswch mewn demijohn (defnyddiais i fwced llynedd gan fod dim un gyda fi) am bump neu chwe diwrnod a photelwch mewn poteli di-haint. Cadwch am flwyddyn. Oce nes i gadw fe nes Nadolig gan fy mod i’n rhy ddiamynedd ac o’n i ishe anrhegion rhad i’r teulu! Nefolaidd.

 

Bragwch yn frwd.

JOIN OUR NEWSLETTER
I agree to have my personal information transfered to MailChimp ( more information )
So you want to find out what we've been up to here at Tŷ Paned HQ? Don't blame you!
We hate spam. Your email address will not be sold or shared with anyone else.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *