
Dechreuodd e ‘da merch. Ma fy stori yn un diddorol ac yn un sydd, gobeithio, yn mynd i’ch ysbrydoli. Dwi ‘di clywed cogydd ar ôl cogydd yn dweud
“Dwi di bod yn coginio ers o’n i’n chewch,” ond nid dyna fy stori i. Yn tyfu lan o’n i yn bendant yn gweld bwyd fel rhywbeth hanfodol er mwyn cael egni i wneud yr holl bethau arall o’n i am wneud. Pan welais un o fy ffrindiau coleg yn rhoi cyw iâr mewn pasta bêc, fe’m syfrdanwyd! Dyma, os bosib, pinacl bwyd.
Yna cwrddais i ferch a newidiodd fy mywyd am byth. Y tro cyntaf nes i goginio iddi, coginiais i basta a saws (heb gyw iâr!) Dwi’n synnu daeth hi erioed nôl. Gofynnodd imi a allith hi goginio i fi. Nes i wrthod gadael iddi goginio eog yn y ffwrn gan feddwl nôl ar yr holl adegau coginiodd mam eog i ni fel teulu.
“Pum munud arall, jyst i wneud yn siŵr,” fyddai hi’n dweud bob tro ac yn gorffen gyda physgodyn sychach na thafod camel. (Sori Mam!)
Gorfodais iddi ferwi’r eog mewn dŵr. Gweithiodd hi saws gwyn syml a dyna pryd mwyaf anhygoel fy mywyd hyd hynny.
Y noson honno dechreuais ar daith ni fydd byth yn gorffen. Taith i brofi byw trwy fwyta. Dwi ddim yn bwyta i fyw mwyach ond yn dathlu pob rhan o fyw gyda bwyd. Dechreuodd taith Tŷ Paned. Ymunwch â fi ar siwrnai Tŷ Paned. Dathlwch fwyta!
Do mi briodais y ferch newidiodd fy mywyd!