Cyflwyniad i bobi bara

 

 

Fydd dysgu pobi bara yng nghysur eich cartref eich hun yn gwella eich bywyd. Ffaith.

Mae yna rywbeth hudolus am drawsffurfio pedwar cynhwysyn i dorth y gallwch fod yn falch ohono. Mae’n cyrsiau yn eich galluogi chi i ffitio pobi mewn i’ch bywydau prysur. Os ydych erioed wedi meddwl fod pobi bara yn rhy anodd neu yn cymryd gormod o amser, neu hyd yn oed os ydych wedi ceisio pobi a heb fod yn bles gyda’r canlyniad, mae’r cwrs yma i chi.IMG_1458

Fyddwn yn dysgu’r broses o gymysgu, eplesu, siapio a phrofi. Fyddwn yn dadryfeddodu ychydig o’r wyddoniaeth tu ôl i’ch torth. Y peth gorau fydd, wrth gwrs, pobi sawl gwahanol fath o fara.

Fyddwch yn mynd â’r bara mwyaf hyfryd ‘dych chi erioed wedi blasu adre gyda chi, yn ogystal â cychwynnwr surdoes, crafydd toes i’ch cychwyn ar y daith pobi, a’r peth pwysicaf fydd y wybodaeth a’r profiad sydd angen i gychwyn y daith honno yn hyderus.

Fydd y cwrs yn rhedeg o 10yb hyd 4 yp ym mhencadlys Tŷ Paned yng Nghaerdydd. Manylion a chyfeiriad ar archebu.

Fydd cinio ar gael yn ystod y dydd.

Am syniad am anrheg Nadolig gwych? Beth am brynu taleb i rhywun arbennig am ddiwrnod yn Nhŷ Paned? Cewch gytuno ar ddyddiad cyfleus i chi a gwybod eich bod wedi rhoi profiad heb ei ail fel anrheg.

 


Upcoming Dates